Dychwelyd Eitemau
Os byddwch yn newid eich meddwl, gellir dychwelyd eitemau sydd ddim yn darfod o fewn 30 diwrnod i dderbyn eich archeb. Rhaid i eitemau fod yn yr un cyflwr ag y cawsant eu danfon.
Unwaith y byddwn yn derbyn yr eitemau yn ôl, byddwn yn prosesu eich ad-daliad o fewn dau ddiwrnod. Os caiff ei dderbyn ar benwythnos neu Ŵyl y Banc bydd eich ad-daliad yn cael ei brosesu y diwrnod gwaith nesaf. Mae ad-daliadau fel arfer yn cymryd hyd at uchafswm o 10 diwrnod i gyrraedd y dull talu gwreiddiol.
Mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn os nad yw eich eitem yn bodloni’r disgrifiad ar adeg ei brynu neu os yw’n ddiffygiol. Cysylltwch â'n tîm drwy ffonio 01792 483003 neu e-bostio [email protected] a byddwn yn eich helpu gyda'r mater.
